| << | September 2010 | >> | ||||
| S | M | T | W | T | F | S |
| 1 | 2 | 3 | 4 | |||
| 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 |
| 12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 |
| 19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 |
| 26 | 27 | 28 | 29 | 30 | ||
Reading for Tuesday 7th September 2010
Ffynhonnau o Fendithion
“Eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol”
Nid darlun o ffrwd fach o ddwr a ddisgrifiodd yr Arglwydd yma, ond ffynnon yn gorlifo. “Llanwer chwi” (Effesiaid 5:18) yn barhaus a bydd melystra eich perthynas fyw â Iesu’n llifo allan ohonoch yr un mor hael ag y cafodd ei roi i chi. Os gwelwch nad yw ei fywyd E’n tarddu fel y dylai, chi sydd ar fai – mae rhywbeth yn rhwystro’r llif. Ai dweud oedd Iesu am ganolbwyntio ar y Ffynhonnell er mwyn bendith bersonol i chi? Na, rydych i ganolbwyntio ar y Ffynhonnell fel y bydd “afonydd o ddwfr bywiol” (Ioan 7:38) – bywyd na ellir ei atal – yn llifo allan ohonoch chi.
Rydym i fod yn ffynhonnau y gall Iesu lifo trwyddynt fel “afonydd o ddwfr bywiol” ac o fendith i bawb. Ond mae rhai ohonom fel y Môr Marw, bob amser yn derbyn, ond byth yn rhoi, am nad yw ein perthynas â’r Arglwydd Iesu’n iawn. Cyn wired ag y derbyniom fendithion ganddo, fe fydd E’n tywallt bendithion allan trwom. Ond bob tro na thywelltir y bendithion allan i’r un graddau ag y cânt eu derbyn, mae nam yn ein perthynas ag E. Oes rhywbeth rhyngoch chi â Iesu Grist? Oes rhywbeth yn rhwystro eich ffydd chi ynddo Fe? Os nad oes, yna mae Iesu’n dweud y bydd “afonydd o ddwfr byw” yn llifo allan ohonoch. Nid yw’n fendith sy’n cael ei phasio ymlaen gennych, nac yn brofiad rydych yn ei rannu ag eraill, ond afon sy’n llifo trwoch yn barhaus. Arhoswch wrth y Ffynhonnell, gan warchod yn ofalus eich ffydd yn Iesu Grist a’ch perthynas ag E, ac fe fydd yna lifo cyson i mewn i fywydau eraill heb unrhyw sychder na marweidd-dra o gwbl.
Ydy hi’n rhy eithafol i ddweud y bydd afonydd yn llifo allan o un credadun? Ydych chi’n edrych arnoch eich hunan ac yn dweud, “Ond alla i ddim gweld yr afonydd”? Trwy gydol hanes gwaith Duw fe welwch fel arfer iddo ddechrau gyda’r rhai dinod, yr anadnabyddus, y rhai a anwybyddwyd, ond y rhai a fuodd yn gadarn ac yn ffyddlon i Iesu Grist.
Ioan 4:14

In English
In Welsh